Welsh Beginners' Workshop

Gweithdy I Ddechreuwyr

Cynnwys

Mae'r Gweithdy i Ddechreuwyr yn cynnig cyflwyniad ymarferol i Raglen Iaith Makaton.

Mae'r sesiynau yn cynnwys cwestiynau cyffredinol a gaiff eu gofyn, gair o gyngor ar sut i arwyddo'n effeithiol, sut i ddefnyddio symbolau a sut i ddechrau defnyddio Makaton o ddydd i ddydd, gartref neu yn y gwaith.

Fe fyddech hefyd yn dysgu am arwyddo a symbolau i Gamau 1-4 ac yn ogystal yr Eirfa Graidd Ychwanegol.

Hyd

Mae'r Gweithdy i Ddechreuwyr yn cynnwys 4 modiwl ac mae'n bosibl iddynt gael eu cyflwyno mewn nifer o ffyrdd gwahanol, er enghraifft:

  • Dros gyfnod o 2 ddiwrnod
  • 4 Sesiwn x 2 awr 45 mun dros gyfnod o wythnosau

Maeni Prawf Mynediad

Mae'n rhaid i gyfranogwyr fod â diddordeb mewn sgiliau cyfathrebu.

Defnyddiau Astudio

Fe fyddwch yn derbyn dau lyfryn gweithdy, sy'n cynnwys arwyddion a symbolau yr ydych wedi'u dysgu'n barod. Fe gyflwynir tystysgrif presenoldeb.

Cofiwch gadw eich Tystysgrif Gweithdy i Ddechreuwyr rhag ofn y byddwch am fynychu unrhyw hyfforddiant Makaton pellach.

Gweithdy I Ddechreuwyr